Gwrachod Heddiw

By: Mari Elen
  • Summary

  • Trafod hefo rhai o genod mwyaf di-flewyn-ar-dafod Cymru.Podlediad yn dathlu merched Cymru, trwy geisio canfod pa nodweddion mae nhw’n ei rannu hefo gwrachod confensiynol.
    © 2024 Gwrachod Heddiw
    Show More Show Less
Episodes
  • Trafod hefo Angharad Tomos
    Oct 22 2024

    Send us a text

    "Gwrach glên oedd Rala Rwdins..."

    Anaml iawn mae rhywun yn cael y cyfle i gyfweld ag arwres eu plentyndod , ond dyna'n union mae'r podlediwr Mari Elen yn gwneud yn y bennod arbennig yma o Gwrachod Heddiw. Wedi ei recordio yn yr Orsaf ym Mhenygroes, mae Mari yn holi'r awdur, arlunydd, dramodydd ac ymgyrchydd Angharad Tomos. Gwrandewch a mwynhech sgwrs hir am Wlad y Rwla, Ymgyrchu, Eileen Beasley, Cyflwr y byd a pha mor bwysig ydi bod yn driw i dy hun a'th egwyddorion. Sgwrs sy'n plethu'r difyr, y dwys a'r digri.

    Mae'r gyfres yma wedi'w ariannu gan gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Prydain.
    Diolch i'r Orsaf ym Mhenygroes am gefnogi a chynnig cartref mor braf.
    Diolch i Frân Wen am yr offer Sain.

    Show More Show Less
    1 hr and 35 mins
  • Trafod hefo Caryl Burke
    Oct 1 2024

    Send us a text

    Croeso nôl i fyd Gwrachod Heddiw! Dyma'r bennod cyntaf yn ein trydydd cyfres, ac mae'n fraint gael cyflwyno y digrifwr Caryl Burke!

    Yn y bennod doniol a thwymgalon hon, mae’r digrifwr Caryl Burke yn ymuno â ni o flaen cynulleidfa byw yn Nhafarn y Plu, Llanystumdwy am sgwrs di-flewyn-ar-dafod am gathod, galar, comedi a boobs. Rydyn ni'n plymio'n ddwfn i'r hyn sy'n gwneud Caryl yn debycach i wrach heddiw - boed yn gasineb at gathod, ei synnwyr gomedi hudolus, neu ei phersbectif unigryw ar fywyd. Gyda digon o chwerthin, eiliadau gonest, dyma'r cyntaf o'i fath ar gyfer y gyfres yma.

    Mae'r gyfres yma wedi'w ariannu gan gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Prydain.
    Diolch i Tafarn y Plu am gefnogi a cynnig cartref mor braf.
    Diolch i Frân Wen am yr offer Sain ac i Lewis Williams am weithio'r offer Sain.


    Welcome back to the world of Gwrachod Heddiw! This is the first episode in our third Series, and it's a privilege to introduce comedian Caryl Burke.

    In this funny and heartfelt episode, comedian Caryl Burke joins us in front of a live audience at Tafarn y Plu, Llanystumdwy for a frank chat about cats, grief, comedy and boobs. We dive deep into what makes Caryl more like a witch today - whether it's her hatred of cats, her magical sense of comedy, or her unique perspective on life. With plenty of laughs, honest moments, this is the first of its kind for this series.

    This series has been funded by Gwynedd Council's and the British Governments Ignite fund.

    Show More Show Less
    53 mins
  • Trafod gyda Lauren Albertina-Morais - Cathod Sassy, Beyonce a bod yn ffrind gorau i chdi dy hun
    Oct 31 2021

    Send us a text

    CALAN GAEAF HAPUS WITCHEZ! Dyma bennod newydd o Gwrachod Heddiw i ddathlu. Yn y bennod yma, dwi'n siarad hefo'r actor / perfformiwr / bardd / cyfarfwyddwr o fri Lauren Albertina-Morais am yr holl bethau sydd yn ei gwneud hi'n wrachaidd.

    Mwynhewch Hags,
    A Plis @iwch fi hefo'ch gwisgoedd gwrachaidd!

    Byddwch wych, Byddwch Wrachaidd

    Show More Show Less
    1 hr and 3 mins

What listeners say about Gwrachod Heddiw

Average Customer Ratings

Reviews - Please select the tabs below to change the source of reviews.

In the spirit of reconciliation, Audible acknowledges the Traditional Custodians of country throughout Australia and their connections to land, sea and community. We pay our respect to their elders past and present and extend that respect to all Aboriginal and Torres Strait Islander peoples today.